Symud clinigau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
O 1 Mehefin 2026, bydd rhai o glinigau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn symud am y tro i Canolfan Pentre Awel tra bo cyfleusterau iechyd gofal newydd yn cael eu paratoi.
Yn ystod y cyfnod dros dro hwn, bydd y clinigau wedi'u lleoli gerllaw'r prif atriwm yn yr adeilad. Y cyngor i gleifion sy'n dod i apwyntiad yw caniatáu amser ychwanegol i ddod yn gyfarwydd â'r lleoliad newydd.
Wrth gyrraedd Canolfan drwy'r prif ddrysau, gallwch ddod o hyd i'r clinigau ar y llaw dde, fel mae'r ddelwedd yn ei ddangos.
Os bydd angen cymorth arnoch chi wrth gyrraedd, bydd staff ar gael i ddangos i chi ble mae'r clinig.
I gael rhagor o wybodaeth am eich ymweliad, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn uniongyrchol. Profion gwaed - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
0300 303 9642


yn Canolfan
Mae TriTech wrth wraidd dull arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae wedi’i leoli yn Canolfan Pentre Awel, sy’n golygu bod y ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gwyddorau bywyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr â thimau Ymchwil, Arloesi a Gwerth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae TriTech yn dwyn ynghyd ofal clinigol, ymchwil a busnes i wneud y canlynol:
• Datblygu a phrofi atebion mewn amgylchedd go iawn
• Cydweithio’n uniongyrchol â phartneriaid academaidd, partneriaid yn y diwydiant a’r GIG
• Cyflymu arloesi o’r syniad i’r effaith
Drwy gael mynediad at rwydwaith iechyd a gofal ehangach Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae TriTech yn galluogi arloesi i gael ei ddatblygu, ei roi ar waith a’i ehangu’n fwy effeithiol.
Yr Athro Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae Pentre Awel yn enghraifft bwerus o adfywio sy’n cael ei arwain gan arloesedd, gan greu amgylchedd unigryw lle gellir dylunio, profi a gweithredu arloesedd iechyd ochr yn ochr â gwasanaethau clinigol a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Mae ein huned bwrpasol yn darparu cartref parhaol i ni i gefnogi ymchwil, gwerthuso, cydweithio â diwydiant, a mabwysiadu datblygiadau digidol ac ataliol arloesol ar raddfa, gan sicrhau bod syniadau newydd yn troi yn fuddion gwirioneddol, parhaol i gleifion a gwasanaethau ledled Cymru a thu hwnt.”
