Agoron ni ein drysau i'r cyhoedd ym mis Hydref 2025. Canolfan Pentre Awel yw calon prosiect adfywio uchelgeisiol i gefnogi bywydau iachach, twf cynhwysol ac arloesedd yn y tymor hir yn Llanelli a Sir Gaerfyrddin.

Ein Gweledigaeth a'n Cenhadaeth 

Ein Gweledigaeth

Creu man ffyniannus, cynhwysol lle gall pobl fyw bywydau iachach, datblygu sgiliau, tyfu busnesau a theimlo'n perthyn i'w cymuned. 

Ein Cenhadaeth

Dod ag iechyd, llesiant, arloesedd, dysgu a menter at ei gilydd o dan yr un to - gan greu'r amgylchedd cywir ar gyfer cydweithio, cyfleoedd a newid cadarnhaol yn y tymor hir i Lanelli, Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

Map o safle Pentre Awel

Beth rydym yn ei wneud

Yn Canolfan Pentre Awel mae cyfuniad unigryw o weithgarwch sy'n canolbwyntio ar iechyd, llesiant, busnes a'r gymuned. Mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn cynnwys: 

  •  Gwasanaethau iechyd a llesiant integredig
  • Mannau gweithio hyblyg i fusnesau ac arloeswyr
  • Cyfleusterau ffitrwydd a hamdden modern
  • Parthau wedi'u neilltuo i ymchwil, arloesedd a thechnoleg
  • Cymorth ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau
  • Rhaglen gydol y flwyddyn o ddigwyddiadau cymunedol 


Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i greu'r amodau cywir i arloesedd ffynnu. Mae'r adeilad wedi ei ddylunio mewn modd sy'n annog cydweithio, rhannu dysgu, a chysylltiadau. Mae rhywbeth yma i'r gymuned gyfan.  

Ein Lleoliad


Mae Canolfan Pentre Awel mewn lleoliad delfrydol ar gwr tref Llanelli, dafliad carreg o arfordir godidog Sir Gâr.

Mae'r safle wrth Lwybr Arfordirol y Mileniwm, felly ceir mynediad uniongyrchol i lwybrau cerdded a beicio hyfryd, ac mae Clwb Golff Machynys a Pharc Arfordirol y Mileniwm gerllaw hefyd. Mae gan Bentre Awel gysylltiadau trafnidiaeth cryf a lleoliad arfordirol unigryw, ac mae'n cyfuno hygyrchedd ag ymdeimlad o le, llesiant a chysylltiad â natur.

Canolfan Pentre Awel, Llanelli, SA15 2EZ

Cynllunio eich Ymweliad

Ein Partneriaid

Darperir Canolfan Pentre Awel gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe. 

Ein Cyllidwyr 


Mae Canolfan yn cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

Cwrdd â'r Tîm


Wrth wraidd Canolfan Pentre Awel mae tîm sydd wedi ymrwymo i gefnogi ein tenantiaid, ein partneriaid a'n cymuned. 

Mags Pullen
Prif Swyddog Gweithredol

MPullen@carmarthenshire.gov.uk

 

Andrew Rees 
Rheolwr Cyfleusterau Safle

ARRees@carmarthenshire.gov.uk

Sophie Rudall-Jones
Rheolwr Busnes ac Arloesi

SRudall-Jones@carmarthenshire.gov.uk

 

Kirsten van den Hout
Rheolwr Busnes ac Arloesi

KLVanDenHout@carmarthenshire.gov.uk

Hanes y Safle


Mae safle Canolfan Pentre Awel yn llawn hanes a threftadaeth gyfoethog.

Yn 1861 roedd y safle'n gartref i gwmni gwaith brics a sefydlwyd gan William Thomas, a fanteisiodd ar yr ardal a oedd yn adnabyddus am ei dyddodion clai helaeth. Thomas hefyd oedd yn gyfrifol am adeiladu'r bloc preswyl cyntaf ar gyfer ei weithwyr, yn dwyn y llysenw Brick Row.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y safle yn gartref i iardiau Gwaith Tunplat De Cymru, a sefydlwyd gan Edward Moorewood a John Rogers. Y seilwaith enfawr hwn oedd nodwedd amlycaf yr ardal, ac ychwanegwyd rhagor o draciau rheilffordd a mannau llwytho ar lan y sianel llongau er mwyn ymdopi â'r holl nwyddau oedd yn dod o'r ardal.

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dirywiad wedi bod yn hanes Gwaith Tunplat De Cymru, ac yn y pen draw cafodd y safle ei drawsnewid i greu Llynnoedd Delta. Gosodwyd llwybrau newydd a chrëwyd ffyrdd, gan gynnwys y gylchfan sydd bellach i'w gweld yn Llynnoedd Delta.

Sut rydym wedi adeiladu ar yr hanes

Trwy dargedu ymyrraeth a buddsoddiad, mae'r Cyngor Sir wedi gallu sicrhau bod y safle hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor.

Mae'r enw, Pentre Awel, yn rhoi'r synnwyr i ni fod yr awyr agored yn greiddiol i'r datblygiad. Gwnaed penderfyniadau pensaernïol bwriadol er mwyn cyfleu'r amgylchfyd naturiol, gan gynnwys ffenestri mawr, mannau agored, paneli pren a digonedd o oleuni naturio.