Croeso i ofod Busnes ac Arloesi Canolfan Pentre Awel. Edrychwch ar beth sydd gyda ni i'w gynnig i chi a'ch busnes wrth i Canolfan ennill enw da i'w hun fel cyfleuster busnes blaenllaw, blaengar a deinamig.
Mae gofod Busnes ac Arloesi blaengar Canolfan Pentre Awel wedi'i gynllunio i ysbrydoli twf, cydweithio ac arloesi. Yn ganolog iddo mae amgylchedd deinamig lle mae entrepreneuriaid, busnesau newydd, a sefydliadau yn dod at ei gilydd i ddatblygu syniadau, rhannu arbenigedd, ac ysgogi cynnydd economaidd.
Rydym yn talu sylw i bob dim, o ddiogelwch i drafnidiaeth a chynnal a chadw, gan sicrhau bod y gweithle'n meithrin effeithlonrwydd, creadigrwydd a chysurwch. Mae mannau busnes Canolfan Pentre Awel yn hyblyg a gallant gynnwys busnesau o bob maint, o fusnesau lleol bach i sefydliadau cenedlaethol.
Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â phrifysgolion, colegau, ysgolion, grwpiau cymunedol, preswylwyr, a sefydliadau'r trydydd sector, gan greu ecosystem wirioneddol gysylltiedig a chydweithredol.
Rydym yn chwilio am fusnesau sy'n cyd-fynd â'n ffocws ar wyddorau bywyd, ymchwil, gofal cymdeithasol, iechyd a llesiant, ac sy'n helpu'r gymuned i fyw bywydau egnïol ac iach.




















