Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin data personol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.



1. At ba ddiben rydym yn defnyddio'ch data personol?

Mae Canolfan Pentre Awel yn cael ei rhedeg gan adran Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor, sy'n casglu ac yn defnyddio data personol am y canlynol: 


2. Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio? 

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i ymgysylltu â busnesau, trefnu cyfarfodydd, a chynnal digwyddiadau preifat, yn ogystal â rhai cyhoeddus, yn Canolfan Pentre Awel. Fel llawer o sefydliadau, mae prosesu data personol yn hanfodol ar gyfer y modd mae ein busnes yn gweithredu o ddydd i ddydd, a'r sail gyfreithlon dros hyn yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd. 

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig.  Nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi o unrhyw ffynonellau eraill.  


4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth.  Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

5. Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn darparu cyn lleied o wybodaeth ag sy'n angenrheidiol ym mhob achos i'r canlynol:

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

6. Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth am 7 mlynedd ar ôl y defnydd diwethaf ohoni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth. 

7. Eich Hawliau Diogelu Data 

Mae gennych yr hawl i: 

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:

8. Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin 
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: diogeludata@sirgar.gov.uk

Gellir cael manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chyfarwyddyd pellach ynghylch y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

www.ico.org.uk