
Ymunwch â ni am ddigwyddiad gwybodaeth galw heibio yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia
Dewch i gwrdd â sefydliadau lleol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw gan ymdrin ag iechyd a llesiant emosiynol a chorfforol. Dewch draw, gofynnwch gwestiynau a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol, hyd yn oed os ydych chi'n ymweld am reswm arall!
Yn eu plith y bydd Age Cymru Dyfed, Llesiant Delta, Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin a Thîm Cymunedau Cyngor Sir Caerfyrddin.
Does dim angen archebu.