Gwyliwch y fideo i archwilio'r mannau a'r cyfleusterau sydd yn gartref ffitrwydd newydd i chi.
Mae ystafell ffitrwydd Actif yng Nghanolfan Pentre Awel yn cynnig mwy na champfa; mae'n darparu profiad ffitrwydd cyflawn i ddefnyddwyr o bob gallu.
Mae'r ystafell yn cynnwys peiriannau cardio a chryfder Precor o ansawdd uchel i gefnogi ystod eang o nodau ymarfer. Mae technoleg ymarfer EGYM wedi'i phersonoli yn caniatáu i aelodau ddilyn rhaglenni wedi'u teilwra y mae modd eu haddasu yn ôl lefelau ffitrwydd a chynnydd unigol.
Mae offer ymarfer swyddogaethol BLK BOX ar gael ar gyfer ymarferion cryfder, cyflyru a swyddogaethol, tra bod beiciau chwilbedlo Keiser yn darparu profiad beicio perfformiad uchel dan do.
Mae ffenestri o'r llawr i'r nenfwd yn edrych dros Lynnoedd Delta, gan greu amgylchedd golau, ysgogol ac ysbrydoledig i ymarfer ynddo.
Bydd angen i oedolyn fynd gyda phlentyn 11-13 oed ar gyfer sesiynau yn y gampfa.
Wedi'i bweru gan Arloesedd – Y Tu Mewn i'r Gampfa yng Nghanolfan Pentre Awel
Mae ein campfa newydd sbon 600m sgwâr yn fwy na dim ond eang – mae wedi'i chynllunio'n arbenigol ac wedi'i chyfarparu'n llawn â thechnoleg flaenllaw yn y diwydiant i gefnogi pob lefel ffitrwydd, o ddechreuwyr i athletwyr perfformiad.
Rydym wedi partneru â brandiau ffitrwydd gorau i ddod â phrofiad campfa newydd sbon i chi yng Nghanolfan Pentre Awel. Mae'n fodern, yn groesawgar, ac wedi'i adeiladu ar gyfer pob lefel - p'un a ydych chi newydd ddechrau neu eisoes yn dwlu ar hyfforddi.