Mae'r caffi yng Nghanolfan Pentre Awel yn lle cynnes a chroesawgar i ymwelwyr ymlacio a mwynhau dewis o brydau bwyd wedi'u paratoi'n ffres, byrbrydau a diodydd. Yma, gallwch chi gael coffi cyflym, cinio ysgafn neu seibiant ar ôl archwilio'r Ganolfan. Mae awyrgylch clyd yn y caffi a bwydlen sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb.