Croeso i'r cyfleusterau hamdden yng Nghanolfan Pentre Awel.
Mae Canolfan Pentre Awel, sydd yng nghanol yr adeilad, yn cynnwys campfa o'r radd flaenaf a chyfleusterau hamdden i'ch cefnogi ar eich taith iechyd, ffitrwydd a llesiant.
Ydych chi'n chwilio am fannau ymarfer annibynnol, dosbarth ffitrwydd neu gyfle i nofio'n hamddenol? Mae gan Ganolfan Pentre Awel bopeth sydd ei angen arnoch chi. Ymunwch â ni heddiw i fod yn rhan o gymuned unigryw!
Mae Canolfan Pentre Awel yn cynnwys y canlynol:
- pwll nofio 25 metr ag 8 lôn a phwll dysgwyr
- neuadd chwaraeon ag 8 cwrt
- campfa arloesol
- stiwdios dawnsio, chwilbedlo ac amlbwrpas
- pwll hydrotherapi - wedi'i ariannu drwy roddion elusennol
Actif yng Nghanolfan Pentre Awel
Oriau agor y Ganolfan
Dydd Llun i ddydd Gwener: 06:30 - 22:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 08:00 - 18:00
Oriau agor y gampfa
Dydd Llun i ddydd Gwener: 06:30- 21:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 08:00- 18:00
Oriau agor y caffi
Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:30- 19:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 09:00- 16:30