Croeso i Ganolfan Pentre Awel, lle sy’n hybu arloesedd, llesiant a chymuned.

Mae Canolfan Pentre Awel yn targedu sefydliadau o bob maint i fanteisio ar y swyddfeydd a’r mannau cydweithio newydd o’r radd flaenaf yn natblygiad newydd Llanelli gwerth miliynau o bunnoedd.  

Nid lle yn unig yw Canolfan Pentre Awel – dyma weithle sydd wedi'i addasu i'ch anghenion. Mae'r swyddfeydd hyblyg wedi'u cynllunio i hybu cynhyrchiant, gan gynnig amgylchedd ysbrydoledig ac effeithlon. Gall mannau busnes yng Nghanolfan Pentre Awel gael eu teilwra i anghenion unigol.

Bydd Canolfan Pentre Awel hefyd yn cynnig mannau addysg, ymchwil a datblygu busnes, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Chwaraeon a Hamdden Actif, a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch eraill. . 

Ymunwch â'n cymuned sy'n ffynnu! ! 

 

Download the Canolfan marketing brochure