Bydd Canolfan Pentre Awel yn croesawu busnesau yn y sectorau gwyddor bywyd, iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol, gan gynnig amrywiaeth o swyddfeydd, sy'n dechrau gydag ystafelloedd mor fach â 200 troedfedd sgwâr.
Nid lle yn unig yw Canolfan Pentre Awel – dyma weithle sydd wedi’i addasu i'ch anghenion.
Mae ein swyddfeydd wedi'u cynllunio i hybu cynhyrchiant, gan ddarparu amgylchedd ysbrydoledig ac effeithlon.
Rydyn ni'n talu sylw i bob dim, o ddiogelwch i drafnidiaeth a chynnal a chadw, gan sicrhau gweithle sy'n meithrin effeithlonrwydd, creadigrwydd a chysur. Mae mannau busnes Canolfan Pentre Awel yn hyblyg a gallan nhw gynnwys busnesau o bob maint, o fusnesau lleol bach i sefydliadau cenedlaethol.
Mae Canolfan Pentre Awel yn rhoi cyfle unigryw i chi gael gweithle sydd wedi'i gynllunio i fodloni'ch gofynion penodol.
Os ydych yn fusnes sy'n chwilio am le yn natblygiad gwerth miliynau o bunnoedd Sir Gaerfyrddin, sef Pentre Awel yn Llanelli, gweler ein harolwg i fynegi eich diddordeb. Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 5 i 10 munud i'w lenwi.
Gweithfan Hyblyg

Ystafelloedd Cyfarfod

Lleoedd parcio ar y safle

E-wefru

Wi-Fi Cyflymder Uchel

Cysylltiadau Trafnidiaeths

Mannau trafod

Tîm rheoli cyfleusterau ymroddedig

Pwll nofio

Gwasanaethau gofal iechyd

Mannau gwyrdd awyr agored

Diogelwch 24 awr

Llwybrau troed cyhoeddus

Lleoedd newid

Hygyrch
To Solar a Brown

EPC 'A'

BREEAM Rhagorol
Telerau'r Brydles
Mae'r swyddfeydd ar gael drwy brydles newydd am gyfnod y cytunir arno.
Pecyn Technegol
Mae pecyn technegol ar gael ar gais.
Tâl Gwasanaeth
Bydd tâl gwasanaeth yn daladwy i dalu costau rhedeg a chynnal a chadw'r eiddo.





