Ar gyfer busnesau newydd neu fusnesau cynnar Sir Gaerfyrddin; cyfres am ddim o weithdai ymarferol, dan arweiniad arbenigwyr, wedi'u cynllunio i roi unrhyw fusnes ar y llwybr i lwyddiant. Maent yn cynnwys cynllunio, marchnata, cyllid a mwy. Dewch i bob sesiwn i gael y profiad llawn neu dewiswch y rhai sydd fwyaf perthnasol i chi. Wedi'i ariannu'n llawn trwy Gronfa Ffyniant a Rennir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin.