Mae rhwydwaith Heneiddio'n Dda Sir Gaerfyrddin ar y cyd â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (WWRPB) yn falch iawn o estyn croeso cynnes i arddangosfa Heneiddio'n Dda a Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2026.
Ymunwch â ni ym Mhentre Awel am ddiwrnod bywiog a diddorol, sy'n cynnwys rhaglen amrywiol i'w mwynhau yn eich hamdden, lle bydd cyfleoedd i ddysgu mwy am weithgareddau a gwasanaethau lleol sydd ar gael i'ch cefnogi i fyw a heneiddio'n dda.
Bydd stondinau gwybodaeth, seremoni wobrwyo WWRPB, gwesteion arbennig, arddangosiadau a syrpreis, i bawb sy'n mynychu eu mwynhau.
I gadw eich lle yn y digwyddiad, parhewch.
Am ragor o wybodaeth am y seremoni wobrwyo ewch i:
Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol WWRPB Gorllewin Cymru 2026
Neu am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â: Ageingwell@carmarthenshire.gov.uk