Rydyn ni'n gwahodd sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol, gwasanaethau cymorth, a chlybiau chwaraeon i ymuno â ni ar gyfer ein Diwrnod Llesiant Cymunedol drwy gynnig stondin wybodaeth am ddim.

P'un a ydych chi'n darparu gwasanaethau cymorth, yn rhedeg clwb chwaraeon lleol, yn arwain grŵp cymunedol, neu'n cynnal gweithgareddau fel sesiynau gwau a chlebran, hoffem glywed gennych chi a dangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael ar draws ein cymuned.

🗓️ Dydd Mercher 14 Hydref

🕛 12pm i 6pm

📍 Canolfan Pentre Awel, Llanelli, SA15 2EZ

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan?

📧 E-bost: PentreAwel@sirgar.gov.uk

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo iechyd, llesiant a chysylltiadau cymunedol.

6.png (1)